Bwyd Cymreig parod i’w fwyta, gan gynnwys prydau parod, eitemau deli a byrbrydau gan gynhyrchwyr.
Mae David Wood Foods yn gweithgynhyrchu teisennau crwst sawrus, bara arbenigol a phrydau parod yn ei safle cynhyrchu yng Nghasnewydd.
Mae Donald’s Pies yn gwneud pasteiod sawrus bach Kiwi yng Nghaerdydd, wedi’u coginio a’u rhewi neu’n barod i’w gweini, â llenwadau cig, cyri a llysieuol.
Mae Dough! yn gwneud bara wedi’i lefeinio’n naturiol, bara fflat a phitsa yn ei fecws cynhyrchu ym Mreudeth ger Tyddewi.
Mae Dylan's yn gwneud sawsiau, picls, cyffeithiau, olewau a sesninau yn ei safle cynhyrchu yn Llangefni ar Ynys Môn.
Mae Ekho yn gwneud bariau byrbryd wedi’u gwasgu’n oer o fwyd cyflawn yng Nghymru gan ddefnyddio cynhwysion syml heb siwgr na melysyddion ychwanegol.
Mae Farmers Boy Deeside yn cynhyrchu bacwn, selsig, cigoedd wedi’u coginio, pasteiod, quiches, briwgig, caws a stêcs wedi’u torri’n fanwl yn Sir y Fflint.
Mae Farmhouse Bakery yn gwneud bara, teisennau crwst, peis a chacennau yn ei fecws cynhyrchu yn Johnston, Sir Benfro.
Mae FEI Foods yn gweithgynhyrchu prydau parod y gellir eu cadw ar dymheredd ystafell, pecynnau bwyd a photiau byrbryd yn ei safle cynhyrchu yn Llantrisant.
Mae FEI Foods yn gweithgynhyrchu cynhyrchion reis, pasta, uwd a phrydau y gellir eu cynhesu yn y microdon yn ei safle cynhyrchu yn Abertawe.
Mae Femvic Grocery Store yn gwneud cawliau, stiwiau a phrydau parod Nigeraidd yn Rhondda Cynon Taf.
Mae Gerrards Bakery yn pobi bara, teisennau crwst, peis, cacennau cri a chacennau dathlu yn ei fecws ar Castle Street yn Llangollen.
Mae Gerrards Bakery yn cynhyrchu bara, teisennau crwst, cacennau hufen, peis, pasteiod crwst a chacennau cri yn ei safle yng Nghorwen.