
Mae Welsh Homestead Smokery yn gwneud bacwn mwg, cyffeithiau tsili, sawsiau, sesnin a halwynau mwg ger Tregaron.
Mae Wheatear Bakery yn gwneud bara, bara surdoes, toes pitsa a nwyddau pob sawrus o’i uned yn High Street Arcade yn Aberteifi.
Mae Wyau Edkins Eggs yn cynhyrchu wyau buarth British Lion ac RSPCA Assured yn ei fferm deuluol yn Nyffryn Aeron.
Mae Y Becws yn pobi bara surdoes, cacennau cri, toesenni, teisennau crwst a chacennau ar y safle yn ei fecws yn Llanbedr Pont Steffan.